Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 19 Tachwedd 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
13:35 - 16:56 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=en_300000_21_11_2012&t=0&l=en |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Mike Hedges Gwyn R Price Jenny Rathbone Aled Roberts Jocelyn Davies |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
David Richards, Llywodraeth Cymru Arwel Thomas, Head of Corporate Governance Karen Sinclair, Former Assembly Member Ieuan Wyn Jones Andrew Davies, Former Minister for EIN |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Tom Jackson (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Sarah Beasley (Clerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Anfonodd y Cadeirydd ei ymddiheuriadau am fethu dechrau'r cyfarfod. Gofynnodd y Clerc am enwebiadau i benodi Cadeirydd dros dro o dan Reol Sefydlog 17.22. Enwebwyd Jocelyn Davies gan Jenny Rathbone, ac fe’i penodwyd nes i'r Cadeirydd gyrraedd.
1.2 Croesawodd y Cadeirydd Dros Dro yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie Morgan a oedd wedi datgan buddiant yn yr eitem ar broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, gan mai ei gŵr oedd y Prif Weinidog ar y pryd.
2. Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen
Llywodraeth Cymru
2.1 Croesawodd y Cadeirydd dros dro David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu, Llywodraeth Cymru; ac Arwel Thomas, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Llywodraethu Corfforaethol a Sicrwydd, i'r cyfarfod.
2.2 Bu'r Pwyllgor yn holi'r tystion.
Cam Gweithredu:
Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru ddarparu:
· Rhagor o wybodaeth am gofrestr datganiadau o fuddiant Llywodraeth Cymru, gan gynnwys pa ddatganiadau a fyddai'n cael eu hystyried yn risg posibl.
Karen Sinclair (drwy Gynhadledd Fideo)
2.3 Croesawodd y Cadeirydd Karen Sinclair, y cyn Aelod Cynulliad, i'r cyfarfod.
2.4 Bu'r Pwyllgor yn holi'r tyst.
Ieuan Wyn Jones AC
2.5 Croesawodd y Cadeirydd Ieuan Wyn Jones AC, y cyn Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, i'r cyfarfod.
2.6 Bu'r Pwyllgor yn holi'r tyst.
Andrew Davies
2.7 Croesawodd y Cadeirydd Andrew Davies, y cyn Weinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau, i'r cyfarfod.
2.8 Bu'r Pwyllgor yn holi'r tyst.
3. Papurau i'w nodi
3.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Eitemau 5 a 6.
5. Ystyried y dystiolaeth ar broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen
5.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd ar broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen.
6. Y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru): Cyfnod 1 - Ystyried yr adroddiad drafft
6.1 Trafoddodd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru).
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.